|
Amser maith yn ôl roedd yna hen wraig yn byw ger afon Mynach. Un diwrnod crwydrodd ei buwch ar draws yr afon ac oherwydd y ceunant serth ni fedrai ei chael yn ôl. Yna ymddangosodd y Diafol o’i blaen a dywedodd wrthi y gwnai adeiladu pont ond y byddai eisiau y peth cyntaf byw i’w chroesi iddo ei hun. Cytunodd yr hen wraig. Credodd y Diafol mai hi fyddai’n croesi yn gyntaf i nôl y fuwch. Fodd bynnag bu’r hen wraig yn gyfrwysach nag e a thaflodd grystyn o fara ar draws y bont. Rhedodd ci yr hen wraig a’r draws y bont i nôl y crystyn a daliodd y Diafol y ci druan, a cafodd yr hen wraig ei buwch yn ôl.